Cwcis a Phreifatrwydd
Dyma Bolisi Cwcis Cyfieithu Amnis, ar gyfer y wefan cyfieithuamnis.cymru
Beth yw cwcis?
Fel sy’n arferol gyda’r rhan fwyaf o wefannau proffesiynol, mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis, sef ffeiliau bach sy’n cael eu lawrlwytho i’ch cyfrifiadur i wella’ch profiad. Mae’r dudalen hon yn disgrifio pa wybodaeth a gesglir, sut caiff ei defnyddio a pham mae angen weithiau i ni storio’r cwcis hyn. Fe ddwedwn wrthych hefyd sut gallwch atal y cwcis hyn rhag cael eu storio, er y gall hyn israddio neu ‘dorri’ rhai elfennau o’r ffordd y mae’r safle’n gweithio i chi.
Am wybodaeth fwy cyffredinol am gwcis gweler yr erthygl ar Wikipedia am HTTP Cookies.
Sut mae’r safle hwn yn defnyddio cwcis?
Rydym yn defnyddio cwcis am amrywiaeth o resymau a fanylir arnynt isod. Yn anffodus, yn aml nid oes opsiynau safonol ar gyfer analluogi cwcis heb analluogi’r nodweddion y maen nhw’n eu hychwanegu i’r safle hwn yn gyfan gwbl. Argymhellir ichi ganiatáu’r cwcis i gyd os nad ydych yn sicr a fydd eu hangen arnoch ai peidio, rhag ofn eu bod yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaeth yr hoffech ei ddefnyddio.
Analluogi cwcis
Gallwch atal cwcis rhag cael eu gosod trwy addasu’r gosodiadau yn eich porwr (gweler adran cymorth, neu ‘Help’ eich porwr am gyfarwyddiadau). Dylech fod yn ymwybodol bod analluogi cwcis yn effeithio ar y ffordd y mae’r wefan hon, a nifer o rai eraill yr ydych yn ymweld â nhw, yn gweithio. Bydd analluogi cwcis fel arfer yn arwain at analluogi rhai o nodweddion y wefan hon. Felly, argymhellir ichi beidio analluogi cwcis. Ceir gwybodaeth fwy penodol i’ch porwr gwe isod.
Y Cwcis rydyn ni’n eu gosod
- Cwci sy’n cofio eich bod wedi derbyn y polisi cwcis – bydd yn darfod 12 mis ar ôl yr ymweliad cyntaf neu pan fod cwcis wedi’u clirio o’ch cyfrifiadur.
- Sesiwn – i’ch helpu i lywio trwy’r wefan yn unig – bydd yn darfod pan fo’r porwr yn cael ei gau.
Pan fyddwch yn cyflwyno data trwy ffurflen fel y rhai a geir ar y dudalen gysylltu neu ffurflenni sylwadau, efallai y caiff cwcis eu gosod i gofio’ch manylion defnyddiwr ar gyfer gohebiaeth yn y dyfodol.
Cwcis trydydd parti
Dan rai amgylchiadau arbennig rydym hefyd yn defnyddio cwcis a ddarparwyd gan drydydd parti rydym yn ymddiried ynddynt. Mae’r adran ganlynol yn manylu ar ba gwcis gan drydydd parti y gallech ddod ar eu traws trwy’r wefan hon.
- Ni ddefnyddir un
Mwy o wybodaeth
Os hoffech fwy o wybodaeth yna gallwch gysylltu â ni trwy un o’r dulliau cysylltu sydd ar gael:
- Trwy’r ddolen hon: Tudalen Gysylltu
Gwybodaeth bellach –diffodd cwcis Fel arfer, gallwch ddiffodd cwcis trwy newid gosodiadau’ch porwr i’w atal rhag derbyn cwcis. Fodd bynnag, mae’n debygol y bydd gwneud hynny’n golygu na fydd ein gwefan ni, a nifer fawr o wefannau’r byd, yn gweithio cystal, gan fod cwcis yn rhan annatod o’r rhan fwyaf o wefannau cyfoes.
Mozilla Firefox I atal cwcis neu newid gosodiadau cwcis yn Firefox, dewiswch ‘options’ yna dewiswch ‘privacy’. Gan fod Firefox yn derbyn cwcis yn ddiofyn, dewiswch ‘use custom settings for history’. Bydd hyn yn cynnig opsiynau ychwanegol, a gallwch ddad-ddewis “accept cookies from sites” neu osod eithriadau, ‘accept third party cookies’, a phenderfynu am ba hyd y caiff cwcis eu storio (nes byddan nhw’n dod i ben, nes byddwch yn cau’r porwr, neu ofyn ichi bob tro). Gallwch hefyd weld rhestr o’r cwcis sydd wedi’u storio a mynd ati i ddileu’r rhai nad oes eu heisiau arnoch. Mae dewis i chi hefyd ddileu’r holl gwcis naill ai o’r ffenestr ‘history’ neu’r ffenestr ‘privacy’. Gellir gosod caniatâd i atal neu ganiatáu cwcis o safleoedd unigol trwy’r tab ‘permissions’ hefyd.
Google Chrome I atal cwcis neu newid gosodiadau’r cwcis yn Google Chrome, cliciwch ar y sbaner ar far tŵls y porwr. Dewiswch ‘settings’, yna ‘under the hood’. Dowch o hyd i’r adran ‘privacy’ a chlicio ar ‘content settings’. Yna cliciwch ar ‘cookies’ ac fe gewch bedwar opsiwn sy’n caniatáu i chi ddileu cwcis, caniatáu neu flocio holl gwcis yn ddiofyn, neu osod dewisiadau cwcis ar gyfer safleoedd neu barthau penodol.
Internet Explorer I atal cwcis neu newid gosodiadau’r cwcis yn Internet Explorer, dewiswch ‘Tools’ (neu’r eicon gêr), ‘Internet Options’, ‘Privacy’. Gallwch ddewis o blith nifer o osodiadau diogelwch yn cynnwys ‘Accept All Cookies’, ‘Block All Cookies’ a gosodiadau yn y canol sy’n effeithio ar storio cwcis ar sail preifatrwydd ac a yw cwcis yn caniatáu i drydydd parti gysylltu â chi heb eich caniatâd pendant.
Safari I atal cwcis neu newid gosodiadau’r cwcis yn Safari 5.0 a chynt, ewch i ‘Preferences’, ‘Security’ ac yna ‘Accept Cookies’. Gallwch ddewis o blith ‘Always’, ‘Only from sites you navigate to’ neu ‘Never’. Yn Safari 5.1 a diweddarach, ewch i ‘Preferences’, ‘Privacy’. Yn yr adran ‘Block Cookies’ dewiswch ‘Always’, ‘Never’ neu ‘From third parties and advertisers’.
Dyna’r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch i reoli a dileu cwcis, ond cofiwch, da chi, bod gwneud hynny’n gallu golygu na fydd y we’n ymddangos yn union fel y byddech yn disgwyl iddo edrych.