Skip to content
Cyfieithu Amnis Translation

Cyfieithu Amnis Translation

Dewislen

Cyfieithu Amnis

Gwasanaeth cyfieithu testun Cymraeg a Saesneg.

Eich geiriau chi, yn eich llais chi. Yn ddwyieithog.

amnis
/ˈam.nis/ [ˈam.nɪs]
  1. Llif neu gerrynt afon, cerrynt yn y môr.
  2. Dŵr, yn arbennig dŵr rhedegog, llif, llifeiriant.
  3. Ffrwd (o eiriau).

Amdanom ni

Cwmni bach, cyfeillgar yw Cyfieithu Amnis, gyda blynyddoedd o brofiad o gyfieithu proffesiynol. Mae’r profiad hwnnw yn llifo trwy wead y cyfieithiad a ddarparwn i chi. Bydd eich testun yn darllen fel Cymraeg neu Saesneg naturiol, yn hytrach na throsiad slafaidd o’r iaith wreiddiol.

Ymhlith ein cwsmeriaid mae cyrff ac elusennau cenedlaethol, cwmnïau bychain, grwpiau cymunedol ac unigolion. Mae un peth yn gyffredin iddyn nhw oll: maen nhw’n ymddiried yng ngallu Cyfieithu Amnis i siarad eu hiaith nhw a chyflawni ar agweddau dwyieithog eu prosiectau.

Nid ar chwarae bach mae ymddiried yn rhywun i gyfleu llais eich mudiad mewn iaith arall.

Bydd eich geiriau mewn dwylo da. Gallwch ddibynnu ar Amnis am wasanaeth cywir, prydlon a phroffesiynol.

Yn ôl i ben y dudalen

Gweithio gyda ni

Efallai bod comisiynu cyfieithydd yn beth hollol ddieithr i chi.

Pan fyddwch chi’n cysylltu â ni, mae croeso i chi holi am unrhyw agwedd ar y broses, yn cynnwys sut i gyflwyno eich testun i ni, prisiau, sut rydyn ni’n penderfynu ar y termau a’r cywair addas ar gyfer eich testun, ac unrhyw agwedd arall ar y broses gyfieithu yr hoffech wybod mwy amdani.

Beth bynnag sydd gennych i’w gyfieithu, boed fyr neu faith, technegol neu dafodieithol, bydd Cyfieithu Amnis yn sicrhau ein bod yn cytuno ar y briff, y costau a’r amserlen o’r dechrau.

Yn ôl i ben y dudalen

Prosiectau diweddar

Cyfieithu testun heriol yn trafod hanes dyrys

Cyfieithu amrywiaeth o destunau a dogfennau sy'n trin a thrafod materion hanesyddol dyrys

Darllen mwy

Cyfieithu a phrawf ddarllen i Mantell Gwynedd

Cyfieithu a phrawf ddarllen

Darllen mwy

Cyfieithu testun gwefan a deunyddiau marchnata

Cyfieithu casgliad o ddeunyddiau marchnata a gwefan ar gyfer ail-frandio mudiad.

Darllen mwy

Diolch yn fawr! Rwyf wastad yn gwybod y gallaf fod yn sicr o ohebiaeth di-oed, atebol a chlir, ebostiau cyfeillgar a difyr, a chwip o gyfieithiad gyda sylw rhagorol i fanylder ac ystyriaeth feddylgar o'r gwaith.
Graham Read
Uwch Ddylunydd, Brandio a Marchnata, Sustrans, 2020

Sustrans

Rydw i wedi bod yn defnyddio Cyfieithu Amnis ers blynyddoedd bellach, a fedra’ i ddim canmol digon ar eu gwaith. Fel hanesydd sy'n arbenigo yn yr hanes tra dyrys a dadleuol sy'n perthyn i gaethwasiaeth a’r ymerodraeth, mae cael cyfieithu unrhyw dermau arbenigol yn gywir gan lwyddo i fynegi cynnil awgrymiadau'n effeithiol yn hollbwysig, ac mae Amnis yn cyflawni hyn bob tro. Maen nhw’n ymateb yn chwim ac mae eu gwaith bob amser yn brydlon – mae’n bleser gweithio gyda nhw.

Dr Marian Gwyn, hanesydd

Fe wnaethom ddefnyddio Cyfieithu Amnis i gyfieithu holl gynnwys ein gwefan yn dilyn ail-frandio o Gofal i Platfform. Yn ystod cyfnod eithriadol o brysur, llwyddodd Gwenlli o Amnis i gwblhau ein holl gynnwys yn brydlon, ymatebodd i geisiadau brys a helpodd ni i reoli'r broses o gyfieithu gwefan newydd gyfan a deunyddiau marchnata mewn da bryd ar gyfer ein lansiad.

Mae Platfform yn gweithio gydag Amnis yn rheolaidd erbyn hyn. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn rhagorol - yn ddibynadwy, proffesiynol a deallus bob amser. Rwy'n argymell Amnis yn arw!

Natasha Withey, Swyddog y Wasg ac Ymgyrchoedd, Platfform, 2019

Platfform

Yn ôl i ben y dudalen

Cysylltu â ni

Mudiad
Cyfieithu Amnis
Cyfeiriad
Llecyn Isaf 313 Maes y Garth Minffordd Penrhyndeudraeth LL48 6EE
Ebost
cyfieithu@cyfieithuamnis.cymru
Ffôn
01766 771817
Ffôn symudol
07774 011403
  • Follow on Facebook
  • Follow on Twitter
  • Hafan
  • Prosiectau
  • Telerau ac Amodau
  • Cwcis a Phreifatrwydd
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Hawlfraint ⓗ Cyfieithu Amnis Translation 2019. Gwefan gan Mônality.

Return to content
  • Hafan
  • Amdanom ni
  • Gweithio gyda ni
  • Prosiectau
  • Cysylltu â ni
  • Follow on Facebook
  • Follow on Twitter
  • English