Cyfieithu a phrawf ddarllen
Cwsmer: Mantell Gwynedd
Mantell Gwynedd yw cyngor gwirfoddol sirol Gwynedd. Mae'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol, yn annog unigolion i wirfoddoli ac mae'n llais cryf i'r trydydd sector yng Ngwynedd.
"Mae Mantell Gwynedd wedi bod yn gweithio hefo Cyfieithu Amnis ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’r gwaith cyfieithu sydd yn cael ei gynnig o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn gampus bob amser. Weithiau mae’r gwaith yn golygu cyfieithu adroddiadau cymhleth ac unigryw (megis adroddiadau ar fesur gwerth cymdeithasol) ond mae Amnis bob amser yn llwyddo i gael tôn y neges yn hollol gywir a’r cyfieithiad yn eglur a synhwyrol. Mae hyn yn hollbwysig i ni.
Mae Amnis wedi bod yn gyfrifol ers peth amser bellach am sicrhau cywirdeb a chysondeb iaith ar gyfer ein Adroddiad Blynyddol, Newyddlenni a deunyddiau marchnata yn ogystal ag adroddiadau eraill.
Mae’r cwmni bob amser yn parchu amserlenni cadarn ac yn cydweithio yn agos efo ni fel cwsmer.
Gwasanaeth effeithiol, cywir a chwrtais – a hwyliog bob amser! Byddai yn anodd iawn curo y gwasanaeth a gynigir gan Amnis ar unrhyw gownt."Bethan Russell Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd, 2019