Prosiectau

Cyfieithu testun heriol yn trafod hanes dyrys

Cwsmer: Dr Marian Gwyn, hanesydd

Cyfieithu amrywiaeth o destunau a dogfennau sy'n trin a thrafod materion hanesyddol dyrys

Gwefan y cwsmer

Rydw i wedi bod yn defnyddio Cyfieithu Amnis ers blynyddoedd bellach, a fedra’ i ddim canmol digon ar eu gwaith. Fel hanesydd sy'n arbenigo yn yr hanes tra dyrys a dadleuol sy'n perthyn i gaethwasiaeth a’r ymerodraeth, mae cael cyfieithu unrhyw dermau arbenigol yn gywir gan lwyddo i fynegi cynnil awgrymiadau'n effeithiol yn hollbwysig, ac mae Amnis yn cyflawni hyn bob tro. Maen nhw’n ymateb yn chwim ac mae eu gwaith bob amser yn brydlon – mae’n bleser gweithio gyda nhw.

Cyfieithu a phrawf ddarllen i Diverse Cymru

Cwsmer: Diverse Cymru

Mae Diverse Cymru wedi bod yn gwsmer i Cyfieithu Amnis ers blynyddoedd, ac mae'r cyfoeth o brofiad a gwybodaeth broffesiynol sydd gan Amnis i'w gynnig ym maes Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn golygu gall Diverse Cymru fod yn hyderus bod eu cynnwys Cymraeg yn addas yn ddiwylliannol, yn gywir ac yn defnyddio'r derminoleg ddewisol ddiweddaraf.

Gwefan y cwsmer

Mae Gwenlli bob amser yn ymateb yn chwim, gyda sgiliau cyfieithu rhagorol a gwasanaeth ardderchog.”
Joe Stockley, Swyddog Cyfathrebu, Diverse Cymru, 2020

Cyfieithu testun gwefan a deunyddiau marchnata

Cwsmer: Platfform

Platfform yw enw newydd Gofal, yr elusen dros iechyd meddwl a newid cymdeithasol
Mae Platfform yn gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau iechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o synnwyr o gysylltiad, perchnogaeth a lles yn y lleoedd y maen nhw’n byw ynddynt.

Gwefan y cwsmer

Fe wnaethom ddefnyddio Cyfieithu Amnis i gyfieithu holl gynnwys ein gwefan yn dilyn ail-frandio o Gofal i Platfform. Yn ystod cyfnod eithriadol o brysur, llwyddodd Gwenlli o Amnis i gwblhau ein holl gynnwys yn brydlon, ymatebodd i geisiadau brys a helpodd ni i reoli'r broses o gyfieithu gwefan newydd gyfan a deunyddiau marchnata mewn da bryd ar gyfer ein lansiad.

Mae Platfform yn gweithio gydag Amnis yn rheolaidd erbyn hyn. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn rhagorol - yn ddibynadwy, proffesiynol a deallus bob amser. Rwy'n argymell Amnis yn arw!

Natasha Withey, Swyddog y Wasg ac Ymgyrchoedd, Platfform, 2019

Cyfieithu Adolygiad Blynyddol Sustrans

Cwsmer: Sustrans

Mae Sustrans, yr elusen trafnidiaeth gynaliadwy sy’n gweithio ym mhob cornel o’r Deyrnas Unedig, yn ymroddedig i ddarparu ei deunyddiau yn ddwyieithog yng Nghymru. Darparodd Cyfieithu Amnis gyfieithiad Cymraeg o’r testun Saesneg ar gyfer eu hadolygiad blynyddol.
Roedd cywair, geirfa a thôn y testun yn amrywio o un dudalen i’r llall, yn cynnwys dyfyniadau gan blant ac aelodau o gymunedau lleol, nodyn gan y Cadeirydd a’r Prif Swyddog, ac adroddiadau ar fentrau cenedlaethol uchelgeisiol.
Cytunwyd ar fformat ar gyfer y cyfieithiad a fyddai’n ei gwneud yn hawdd i ddylunwyr di-Gymraeg yn swyddfeydd cenedlaethol y mudiad yn Lloegr osod y testun yn ei ffurf terfynol.

Gwefan y cwsmer

Diolch yn fawr! Rwyf wastad yn gwybod y gallaf fod yn sicr o ohebiaeth di-oed, atebol a chlir, ebostiau cyfeillgar a difyr, a chwip o gyfieithiad gyda sylw rhagorol i fanylder ac ystyriaeth feddylgar o'r gwaith.
Graham Read
Uwch Ddylunydd, Brandio a Marchnata, Sustrans, 2020

Cyfieithu a phrawf ddarllen i Mantell Gwynedd

Cwsmer: Mantell Gwynedd

Mantell Gwynedd yw cyngor gwirfoddol sirol Gwynedd. Mae'n cefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol, yn annog unigolion i wirfoddoli ac mae'n llais cryf i'r trydydd sector yng Ngwynedd.

Gwefan y cwsmer

"Mae Mantell Gwynedd wedi bod yn gweithio hefo Cyfieithu Amnis ers nifer o flynyddoedd bellach. Mae’r gwaith cyfieithu sydd yn cael ei gynnig o’r Saesneg i’r Gymraeg ac o’r Gymraeg i’r Saesneg yn gampus bob amser. Weithiau mae’r gwaith yn golygu cyfieithu adroddiadau cymhleth ac unigryw (megis adroddiadau ar fesur gwerth cymdeithasol) ond mae Amnis bob amser yn llwyddo i gael tôn y neges yn hollol gywir a’r cyfieithiad yn eglur a synhwyrol. Mae hyn yn hollbwysig i ni.
Mae Amnis wedi bod yn gyfrifol ers peth amser bellach am sicrhau cywirdeb a chysondeb iaith ar gyfer ein Adroddiad Blynyddol, Newyddlenni a deunyddiau marchnata yn ogystal ag adroddiadau eraill.
Mae’r cwmni bob amser yn parchu amserlenni cadarn ac yn cydweithio yn agos efo ni fel cwsmer.
Gwasanaeth effeithiol, cywir a chwrtais – a hwyliog bob amser! Byddai yn anodd iawn curo y gwasanaeth a gynigir gan Amnis ar unrhyw gownt."

Bethan Russell Williams, Prif Swyddog Mantell Gwynedd, 2019

Cyfieithu ymgyrch marchnata ar y cyfryngau cymdeithasol

Cwsmer: Kindred

Roedd y cwmni hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus hwn yn gweithio ar gyfres o ddeunyddiau wrth gynnal ymgyrch ar ran mudiad cenedlaethol. Roedd angen copi Cymraeg a fyddai'n gweithio'n dda ochr yn ochr â'r deunyddiau Saesneg.
Roedd y gwaith yn cynnwys datblygu sloganau, yn ogystal â chyfieithu copi bywiog a bachog ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Gwefan y cwsmer

"Mae Cyfieithu Amnis wedi darparu gwasanaeth hynod o broffesiynol, dymunol, effeithlon a chyfeillgar drwy gydol y flwyddyn rydym wedi bod yn gweithio gyda'n gilydd.
Mae'n darparu gwaith cyfieithu heb ei ail, ac mae tôn llais a brandio rhagorol yn plethu trwy'r copi benbaladr. Byddwn yn argymell Amnis fel dewis cyntaf ar gyfer cyfieithu Cymraeg. Diolch!"
Ben Davies, Kindred, 2018