Prosiectau

Prawf ddarllen copi dwyieithog

Cwsmer: NWREN (North Wales Regional Equality Network)

Roedd yr elusen hon wedi cael cyfieithu'r ddogfen yn y gorffennol, ond roedd diweddariadau wedi'u gwneud iddi. Roeddent eisiau sicrwydd bod y copi Saesneg a'r copi Cymraeg yn cyd-fynd â'i gilydd a'u bod ill dau yn gywir ac yn darllen yn rhwydd.

"Diolch i chi am wneud y gwaith prawf ddarllen - gwaith sydyn iawn ac roedd o gymorth mawr eich bod wedi gwneud y newidiadau 'yn y ddogfen' hefyd!"
Belinda Gammon, NWREN, 2018

Cyfieithu deunyddiau Nod Ysgol

Cwsmer: Sustrans

Cyfieithu cyfres o ddogfennau, copi a testun gwefan ar gyfer prosiect cenedlaethol newydd
Roedd y cwsmer eisiau cyfieithu cyfres o ddogfennau fel rhan o'i brosiect newydd, mewn amrywiol fformatau ac o wahanol hyd, yn cynnwys copi gwefan, templedi ebostiau ar gyfer y prosiect a ffurflenni meini prawf cymhwyso ar gyfer cyfranogwyr ac aseswyr y prosiect.
Roedd rhaid gweithio ar y rhain dros gyfnod o amser, gyda chysondeb o ran geirfa a thôn llais y mudiad yn plethu'r cwbl at ei gilydd.

Gwefan y cwsmer

"Llawer o ddiolch am eich help wrth i ni gyflawni ein prosiect aml-gymalog. Mae eich sylw i fanylder, a'ch gwasanaeth prydlon a chyfeillgar yn ganmoladwy."

Gary Shipp, Pennaeth Dewisiadau Doethach, 2016

Cyfieithu rhestr gwin a nodiadau blasu gwin

Cwsmer: Portmeirion

Mae llawer o eirfa'r byd gwerthfawrogi gwin eto i'w safoni yn y Gymraeg. Yn wir, mae llawer o'r Saesneg yn ddigon amhendant o ran terminoleg a dehongliad.
Felly, roedd y prosiect hwn yn galw am ddehongliad yn hytrach na chyfieithiad. Roedd angen mynegi naws blas ac ansawdd y gwinoedd i'r darllenwr, ac ni fyddai'r un eirfa â'r Saesneg o reidrwydd yn creu darlun o bob un o'r gwinoedd.

Gwefan y cwsmer

"Diolch yn fawr iawn am yr holl waith gofalus a deallus. Mae cyfieithu nodiadau blasu gwin yn dipyn o gamp!"
Robin Llywelyn, Awst 2015